P-04-656: Sefydlu Diwrndo Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng Nghymru– Deisebydd I’r Cadeirydd - 04.11.15

Annwyl Mr Powell

P-04-656: Sefydlu Diwrnodd Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng Nghymru

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Deisebau am y cyfle i gyflwyno tystiolaeth ar gyfer eich ystyriaeth o’r mater pwysig hwn ar 4 Tachwedd.

Wrth imi lunio’r llythyr hwn rydym yng nghanol cyfnod y Cofio.  Yn ystod y cyfnod hwn mae’na bwyslais ar gofio’r milwyr a fu farw yn ystod rhyfeloedd diweddar, yn enwedig y ddau Ryfel Byd.  Cynhelir gwasanaethau a gorymdeithiau, ac mae pawb bron yn gwisgo pabi coch.  Mae hi’n gymwys, wrth gwrs, i ni alaru am y rhai a gollwyd ar faes y gad, i resynu am y colled a’r gwastraff.  Mae hi’n gymwys hefyd i ni gofio i’r rhain farw yn y gobaith o greu gwell fyd, lle na fyddo angen rhyfel a lladd i ddatrys ein problemau.  Mawr yw ein diolch iddynt.

Rhaid cofio, fodd bynnag, fod gan Gymru draddodiad arall yn hanesyddol, sef traddodiad o heddychiaeth.  Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, er enghraifft, cofrestrodd dros 700 o Gymry yn Wrthwynebwyr Cydwybodol.  Fe wnaethon nhw hyn ar sail egwyddorion cadarn – boed y rhain yn grefyddol neu’n wleidyddol – a chred bod lladd cyd-ddyn yn anghywir. Dynion megis George M Ll Davies, Ithel Davies a Percy Ogwen Jones a ddioddefodd garchariad, llafur caled a chamdriniaeth am sefyll yn ddi-ildio dros eu credoau.  Mae’r rhain hefyd yn haeddu, clod er iddynt i raddau helaeth fynd yn angof ar wahan i’r ychydig heddychwyr sydd yn gwybod amdanynt.  Mae’r ddeiseb hon yn gofyn i’r Cynullaid gydnabod eu rôl yn ein treftadaeth a dangos iddynt y parch haeddiannol. 

Fel y crybwyllwyd gan y Prif Weinidog, mae’na eisoes ddiwrnod rhyngwladol i gofio am Wrthwynebwyr Cydwybodol ar 15 Mai.  Mae hi’n bwysig tynnu sylw at y ffaith nad yw’r grŵp sydd wedi cyflwyno’r ddeiseb hon yn gofyn am i ddiwrnod ychwanegol gael ei sefydlu.  Fodd bynnag nid yw 15 Mai yn cael dim sylw swyddogol yng Nghymru.  Nod y ddieseb hon yw gofyn i hyn ddigwydd.  Gall hyn gael eu gwireddu mewn sawl ffordd – e.e. gosod torch o babis gwynion ar bwys y gofeb i gofio am Wrthwynebwyr Cydwybodol a leolir yn yr Ardd Heddwch y tu ôl i’n Teml Heddwch; gwisgo pabis gwynion; codi ymwybyddiaeth am wrthwynebwyr cydwybodol a heddychwyr yn ein hysgolion a’n cymunedau ayb.  Byddai union ffyrdd y cofio a’r dathlu lan i’r Cynulliad, mewn cydweithrediad â grwpiau heddwch yng Nghymru.

Byddai gwneud hyn yn cefnogi gwaith a wneir gan y Cynulliad eisoes.  Mae’r prosiect ‘Cymru dros Heddwch’, er enghraifft, yn gweithio llaw yn llaw gyda ‘Cymru’n Cofio’ i ateb y cwestiwn ‘Yn y 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at heddwch?’  Mae’r prosiect hwn yn bodoli bellach ers bron iawn blwyddyn ac eisoes yn dadorchuddio treftadaeth heddwch gyfoethog yng Nghymru.  Yn ystod y pedair blynedd nesaf mae tîm Cymru dros Heddwch yn hyderus y daw llu o storïau i’r amlwg am sut y llafuriodd unigolion a chymunedau dros heddwch yng Nghymru – a sut mae pobl yn dal

i wneud hynny.   Bydd rhai o’r dynion a’r merched hyn wedi ceisio heddwch trwy fynd i ryfel.  Yr oedd eraill, fodd bynnag, yn dewis dilyn eu cydwybod a gwrthwynebu rhyfel fel dull yn gyfan gwbl – a dioddef o’i herwydd.  Y mae’r traddodiad hwn, sydd yn rhan annatod o’n hanes, hefyd yn haeddu parch a sylw swyddogol. 

Ni fyddai’r Cynulliad yn unig wrth gymryd y cam hwn.  Deallaf fod Senedd yr Alban ar hyn o bryd yn trafod sefydlu diwrnod i gofio am gyfraniad gwrthwynebwyr cydwybodol.  Mae cynghorwyr Caeredin hefyd wrthi yn penderfynu lle i leoli cofeb yn y ddinas i gofio am wrthwynebwyr.

Rydym ni yng Nghymru yn ffodus ein bod ni yn byw mewn gwlad rhydd ddemocrataidd.  Nid yw hyn yn wir o bob wlad.  Rhaid cofio bod gwrthwynebwyr cydwybodol yn dal i ddioddef carchariad a chamdriniaeth mewn sawl gwlad ar draws y byd, yn cynnwys De Corea, Y Ffindir, ac Israel – hyn er gwaethaf Erthygl 18 o Ddatganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol sydd yn datgan hawl pob person i ryddid barn, cydwybod a chrefydd.  Trwy gofio diwrnod gwrthwynebwyr cydwybodol yn swyddogol byddem ni yng Nghymru, fel dinesyddion byd-eang, yn cofio am y rhai sydd yn dal i ddioddef yn rhyngwladol oherwydd iddynt weithredu ar sail eu cydwybod.  Byddai hyn hefyd yn cynnig cyfle i ddisgyblion drafod hyn fel cwestiwn moesol – e.e. fel rhan o’r Bac Cymreig.

Gobeithio y bydd y Pwyllgor Deisebau yn rhoi sylw teilwng i’r cais hwn.  Creda’r deisebwyr y byddai sefydlu diwrnod swyddogol i gofio am wrthwynebwyr cydwybodol yn ffordd dda o anrhydeddu treftadaeth heddwch Cymru yn gyffredinol a’r rhai oedd yn barod i ddioddef carchariad, camdriniaeth a hyd yn oed marwolaeth oherwydd eu credoau.  Byddai diwrnod felly yn sefyll llaw yn llaw gyda’r cofio cenedlaethol am filwyr a gollodd eu bywydau ar faes y gad, hwythau hefyd er mwyn ceisio heddwch.

Yr eiddoch yn gywir

Jane Harries

Cydlynydd ac Ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod

Ysgrifennydd grŵp ‘COs’ Day Cymru’